Enwau Defnyddwyr
Mathau o Ddefnyddwyr
Mae dau fath o ddefnyddwyr PAC.
- Defnyddwyr Cwmni
- Defnyddwyr Eraill (Defnyddwyr Llawrydd)
Defnyddiwr Cwmni
Gall defnyddwyr cwmni...
- Greu defnyddwyr cwmni newydd a golygu'r rhai sydd eisioes yn bodoli
- Creu defnyddwyr eraill sy'n gysylltiedig â'u cwmni a golygu'r rhai sydd eisioes yn bodoli
- Cael mynediad at bob rhaglen (sef pob cyfres, pob pennod o'r cyfresi hynny a phob rhaglen unigol sy'n gysylltiedig â'u cwmni)
Rhybudd
Dim ond pobl sy'n cael eu cyflogi'n uniongyrchol gan eich cwmni ddylai gael eu nodi fel defnyddwyr cwmni.
Defnyddwyr Eraill
Gall defnyddwyr eraill...
- Gael mynediad at raglenni dim ond pan fyddent wedi cael caniatâd i wneud hynny (sef cyfresi, penodau o'r gyfres a rhaglenni unigol)
Creu Defnyddiwr
Er mwyn creu defnyddiwr newydd bydd angen i chi ddarparu'r wybodaeth ganlynol.
- Enw Cyntaf - Enw cyntaf y defnyddiwr (Ni ellir ei adael yn wag)
- Cyfenw - Cyfenw'r defnyddiwr (Ni ellir ei adael yn wag)
- Enw Defnyddiwr - Yr enw i'w ddefnyddio gan y defnyddiwr er mwyn mewngofnodi (dylai fod rhwng 6 a 30 nod). Bydd yn cael ei greu'n awtomatig pan fyddwch yn ychwanegu enw cyntaf a chyfenw'r defnyddiwr
- Cyfeiriad E-bost - Cyfeiriad e-bost dilys (Ni ellir ei adael yn wag)
- Iaith - Pa iaith y maent am i PAC ymddangos ynddi
- Dilys o - Y dyddiad pan gant fewngofnodi i PAC
- Dilys hyd at - Y dyddiad pan na chant fewngofnodi i PAC mwyach
- Cyfrinair - Y cyfrinair i'w ddefnyddio ganddynt i fewngofnodi i PAC. Gweler Gofynion Cyfrinair i gael rhagor o fanylion
Unwaith y byddwch wedi darparu'r wybodaeth hon, gwasgwch 'Arbed'. Bydd y wybodaeth yn cael ei wirio a bydd y system yn ceisio creu defnyddiwr newydd. Os bydd defnyddiwr arall â'r un 'Enw Defnyddiwr' eisioes yn bodoli, bydd angen i chi newid yr enw defnyddiwr a rhoi cynnig arall arni.
Gofynion Enw Defnyddiwr
Rhaid i Enw Defnyddiwr fod rhwng 6 a 30 nod o hyd, ac mae'n rhaid iddo fod yn unigryw.
Os ydych yn creu cyfrif ar gyfer gweithiwr llawrydd sydd hefyd yn gweithio'n llawrydd i gwmni cynhyrchu arall, efallai bydd rhaid i chi addasu'r enw defnyddiwr a gynhyrchir gan y system er mwyn cynnwys elfen adnabod unigryw.
Er enghraifft, mae "John Smith" yn gweithio i ddau gwmni gwahanol. Gydag un cwmni, mae'n mewngofnodi â'r enw defnyddiwr "John Smith", ond gyda'r cwmni arall mae'n defnyddio "John Smith2". Gall yr addasiad i wahaniaethu'r enwau fod yn unrhyw beth cyn belled bod yr enw denfyddiwr yn unigryw ar yr adeg caiff ei greu.
Gofynion E-bost
Ni chewch adael y cyfeiriad e-bost yn wag, a dylai gydymffurfio â'r rheolau safonol ar gyfer gwirio e-bost. Hynny yw, dylai edrych yn debyg i hyn:-
- username@domain
- user.name@domain
- username@subdomain.tld
- user.name@subdomain.tld
Os ydych yn canfod cyfeiriad e-bost sydd yn ddilys (h.y. gallwch e-bostio'r unigolyn gan ddefnyddio eich e-bost corfforaethol yn ogystal â chael ateb ganddynt) dywedwch wrth S4C a byddwn yn ymdrechu i ddatrys y mater.
Gofynion Cyfrinair
Rhaid i gyfrineiriau PAC ddilyn y rheolau canlynol.
- Rhaid iddynt fod o leiaf 6 nod o hyd
- Rhaid iddynt gynnwys o leiaf un o bob un o'r mathau canlynol o nodau:-
- Priflythrennau - A-Z
- Llythrennau bach - a-z
- Rhifau - 0-9
- Nodau arbennig - !£$%^&*()_=+;:#~,<.>/?|-\[]{}
Nodyn
Pan fyddwch yn creu defnyddiwr newydd neu'n newid cyfrinair denfyddiwr bydd angen i chi gyflwyno'r cyfrinair ddwywaith.
Dileu Defnyddwyr
Ni ellir dileu defnyddwyr. Pe byddwch angen analluogi cyfrif, golygwch fanylion y defnyddiwr a newidiwch y dyddiad 'Dilys hyd at' i ddyddiad yn y gorffennol. Bydd hyn yn eu hatal rhag mewngofnodi.
Hidlo Defnyddwyr
Bydd y rhestr defnyddwyr yn dangos defnyddwyr gweithredol yn unig oni bai eich bod yn newid y gosodiadau. Hynny yw, y defnyddwyr sydd â dyddiadau 'Dilys o' a 'Dilys hyd at' sy'n cwmpasu'r dyddiad presennol. Dim ond y defnyddwyr hyn all fewngofnodi i'r system. Pe hoffech weld y defnyddwyr sydd ddim yn gallu mewngofnodi, gallwch ddewis Dangos defnyddwyr anweithredol yn unig, ac os ydych eisiau gweld pob defnyddiwr gallwch ddewis Dangos pob defnyddiwr.
Hawliau Defnyddwyr Llawrydd
Fel y nodir uchod, pan gant eu creu gyntaf ni fydd gan ddefnyddwyr llawrydd unrhyw hawliau mynediad at raglenni. Mae'r adran hon yn amlinellu'r broses o ganiatáu a diddymu mynediad defnyddwyr llawrydd at raglenni.
Ychwanegu Hawliau
Er mwyn caniatáu mynediad at y cyfresi neu'r rhaglenni y maent eu hangen, dylech fynd i Enwau Defnyddwyr > Defnyddwyr Eraill > Ychwanegu hawliau defnyddiwr.
Er mwyn rhoi hawliau i ddefnyddiwr (neu i grŵp o ddefnyddwyr), dilynwch y camau syml canlynol.
- Defnyddiwch y rhestr Defnyddwyr i ddewis pa ddefnyddwyr yr ydych eisiau rhoi hawliau iddynt
- Defnyddiwch y rhestr Cyfresi a Rhaglenni Unigol i ddewis pa raglenni yr ydych eisiau iddynt gael mynediad atynt
- Gwasgwch y botwm Arbed ar waelod y ffurflen
Dewisiadau Eraill
Ar waelod y ffurflen mae modd dewis neu ddad-ddewis yr holl ddefnyddwyr a'r holl raglenni. Mae'r rhain wedi'u cynnwys er hwylustod, ond dylid eu defnyddio â gofal i sicrhau nad ydych yn rhoi gormod o fynediad i ormod o ddefnyddwyr.
Dileu Hawliau Defnyddiwr
Er mwyn dileu hawliau defnyddwyr, dylech fynd i Enwau defnyddwyr > Defnyddwyr Eraill > Dileu hawliau defnyddiwr.
Y cam cyntaf yw dewis hawliau pa ddefnyddiwr yr ydych am eu dileu trwy wasgu'r eicon dewis. Bydd y ffurflen yn cael ei hail-lwytho er mwyn dangos rhestr o hawliau presennol y denfyddiwr, fel y gwelir isod.
Er mwyn dileu hawliau mynediad defnyddiwr at raglen benodol, gwasgwch yr eicon dileu sydd wrth ymyl y rhaglen. Bydd gofyn i chi gadarnhau'r weithred hon, fel y gwelir isod.
Bydd cadarnhau'r weithred yn arwain at ddileu hawliau mynediad y defnyddiwr at y rhaglenni a ddewiswyd yn syth. Os ydynt wedi mewngofnodi pan ddilëir yr hawliau, ni fydd y goeden lywio yn diweddaru yn awtomatig ond bydd gwiriadau diogelwch mewnol PAC yn eu hatal rhag cael mynediad at y ffurflenni sy'n gysylltiedig â'r rhaglen.