Neidio i'r cynnwys

Crynodebau a Rhestriadau

Ciplun yn dangos y ffurflen Crynodebau a Rhestriadau

Fel y mae'r enw yn ei awgrymu, defnyddir y ffurflen hon i gasglu crynodebau a rhestriadau 3 llinell (yn y Gymraeg a'r Saesneg) ar gyfer rhaglenni unigol neu benodau unigol sy'n rhan o gyfres.

Ychwanegwch y testun sydd ei angen a gwasgwch Arbed.

Unwaith y byddwch wedi darparu'r pedwar eitem, gellir cwblhau'r ffurflen trwy wasgu'r botwm Cwblhau.

Crynodeb

Disgrifiad cynhwysfawr o gynnwys y rhaglen ' er enghraifft:

  • Drama/Comedi ' prif ddatblygiadau/llinynnau storĂ¯ol y bennod
  • Materion cyfoes ' eitemau/materion dan sylw - y brif bobl sy'n cael eu cyfweld
  • Cerddoriaeth/Adloniant Ysgafn ' artistiaid/grwpiau sy'n perfformio [yr eitemau a berfformir]
  • Cylchgrawn ' eitemau sy'n cael sylw ynghyd ag enwau'r prif gyfranwyr

Pan fyddwch yn rhoi crynodeb o bennod sy'n rhan o gyfres, dylai'r manylion a ddarperir adlewyrchu cynnwys y bennod unigol yn hytrach na'r gyfres gyfan.

Bydd y crynodeb yn cael ei ddefnyddio gan Swyddfa'r Wasg i baratoi cyhoeddiadau 'pigion y dydd'. Ar y cyfan, bydd slotiau 'pigion y dydd' angen 100 gair yn y Gymraeg a 150 gair yn y Saesneg.

Rhestriadau (3 Llinell)

Bydd y Swyddfa Wasg yn defnyddio'r wybodaeth yma i greu 'rhestriadau' ar gyfer y Radio Times ac asiantaethau rhestru eraill, gan gynnwys yr EPG (Electronic Programme Guide).