Ffurflenni Rhaglenni
Yn yr adran hon byddwn yn trafod yr holl wahanol ffurflenni gwybodaeth rhaglen sydd i'w cael yn PAC.
Ffurflenni sydd ar Gael
Bydd pa ffurflenni sydd ar gael yn dibynnu ar ba ddeunyddiau cyfleu sy'n ofynnol gan y contract. Bydd eu hunion leoliad yn dibynnu ar a ydynt yn gysylltiedig â chyfres ac/neu un o'i phenodau neu â rhaglen unigol. Ar gyfer cyfres arferol, mae'r ciplun canlynol yn cynnig sampl enghreifftiol o'r ffurflenni a fydd ar gael i gyfres a'i phenodau.
Mae'r ciplun nesaf yn dangos sampl cynrychiadol o ba ffurflenni fydd ar gael ar gyfer rhaglen unigol.
Rhaglen Unigol
Ar gyfer rhaglen unigol, fel arfer bydd y ffurflenni canlynol ar gael.
- Deunydd Cyfleu - Rhestr o'r deunyddiau cyfleu gofynnol a'u statws presennol
- Cyfranwyr - Rhestr o'r cyfranwyr sy'n rhan o'r rhaglen nad ydynt yn aelodau o undeb
- Artistiaid - Rhestr o artistiaid sy'n rhan o'r rhaglen ac sy'n aelodau o undeb
- 405 Ffurflen Cyfleu'r Rhaglen - Cofnod o gyflwyniad y tair ffurflen sy'n gynwysedig ynddo
- Gofynion Cyflwyno
- Disgrifiadau Rhybuddion Cynnwys
- Gwybodaeth Hysbysebu
- 405b Crynodebau a Rhestriadau
- 406 Isdeitlau - Enw'r cwmni sy'n darparu isdeitlau
- 408 Taflen Ciwiau Cerddoriaeth - Ciwiau cerddoriaeth ar gyfer trac sain y rhaglen
Cyfres
Ar gyfer cyfres, fel arfer bydd y ffurflenni canlynol ar gael.
- Templedi Taflenni Ciwiau Cerddoriaeth - Templedi ar gyfer cofnodion ciwiau cerddoriaeth ar gyfer darnau sy'n cael eu defnyddio sawl gwaith yn y gyfres
- Deunydd Cyfleu - Rhestr o'r deunyddiau cyfleu gofynnol a'u statws presennol
- Cyfranwyr - Rhestr o'r cyfranwyr sy'n rhan o'r rhaglen nad ydynt yn aelodau o undeb
- Artistiaid - Rhestr o artistiaid sy'n rhan o'r rhaglen ac sy'n aelodau o undeb
Penodau o fewn Cyfres
Ar gyfer y penodau unigol o fewn cyfres, fel arfer bydd y ffurflenni canlynol ar gael.