Gofynion Cyflwyno
Defnyddir y ffurflen hon i gasglu manylion cyswllt ac enw'r rhaglen (neu enw'r bennod os yn rhan o gyfres) yn ogystal â rhywfaint o wybodaeth am y rhaglen sydd ei angen ar gyfer chwarae yn ôl. Mae hyn yn cynnwys manylion y rhestr cydnabyddiaeth (pryd maen nhw'n dechrau, yn darfod, pa mor hir ydyw, a yw'r rhaglen yn parhau wedi iddo orffen, ac os hynny, am ba mor hir mae'n parhau) ac unrhyw wybodaeth arall a allai fod yn ddefnyddiol ar gyfer darlledu'r rhaglen.
Unwaith y byddwch wedi darparu’r wybodaeth ofynnol, gallwch ei gadw trwy wasgu'r botwm Arbed.
Nid oes botwm Cwblhau oherwydd ei fod yn rhan o Ffurflen Cyfleu'r Rhaglen.
Codau Amser Cyntaf/Olaf y Rhestr Cydnabyddiaeth
Mae'r codau amser hyn yn nodi pryd mae'r rhestr cydnabyddiaeth ar ddiwedd y rhaglen yn dechrau ac yn gorffen.
Wrth nodi'r codau amser ar gyfer dechrau a diwedd y rhestr cydnabyddiaeth, dylid defnyddio'r fformat canlynol:-
hh:mm:ss.ff
Pan fo:-
- hh - Oriau (rhwng 00 a 30, gan gynnwys y ffigyrau hynny)
- mm - Munudau (rhwng 00 a 59, gan gynnwys y ffigyrau hynny)
- ss - Eiliadau (rhwng 00 a 59, gan gynnwys y ffigyrau hynny)
- ff - Fframiau (rhwng 01 a 24, gan gynnwys y ffigyrau hynny)
Dylai'r hyd gael ei nodi gan ddefnyddio'r fformat canlynol:- mmm:ss
Pan fo:-
- mm - Munudau (rhwng 000 a 999, gan gynnwys y ffigyrau hynny)
- ss - Eiliadau (rhwng 00 a 59, gan gynnwys y ffigyrau hynny)
Cyswllt Darlledu
Os gwelwch yn dda, nodwch fanylion (enw, rhif ffôn cyswllt a chyfeiriad e-bost) y person sy'n debygol o fod â'r mwyaf o wybodaeth am y rhaglen. Nid y cynhyrchydd fydd y person hwn o reidrwydd. Yn ddelfrydol byddwch yn nodi rhif ffôn swyddfa a rhif ffôn tu allan i'r swyddfa.
Enw'r Rhaglen
Gall enw'r rhaglen fod hyd at 30 nod o hyd. Os oes is-deitl i'r bennod dylech ei nodi yma. Gall hyn fod yn ddefnyddiol wrth chwilio am raglenni penodol, ac ar brydiau gall roi arwydd o gynnwys y rhaglen hefyd.
Rhif Cyfryngau
Dyma'r rhif cyfryngau a ddynodwyd gan y cwmni cynhyrchu neu'r tŷ cyfleustod ar gyfer y cyfrwng a ddefnyddir i gyflenwi'r rhaglen i S4C.
Fformat Cyfrwng
Bydd hwn er gwybodaeth yn unig, a bydd yn cael ei gasglu o wybodaeth o fewn y contract.
Gor-rediad ar ôl y Rhestr Cydnabyddiaeth
A yw'r rhaglen yn parhau ar ôl i'r rhestr cydnabyddiaeth olaf orffen? Er enghraifft, a yw'r lluniau'n parhau? Ai dim ond cerddoriaeth? Gwybodaeth am y bennod nesaf ac yn y blaen. Am ba mor hir fydd hyn yn digwydd?
Os yw'r gor-rediad yn fyrrach na 3 munud, yr ateb i hyn yw Na. Mae'r wybodaeth hon yn ddefnyddiol er mwyn gwybod a ddylid rhoi hysbysiad parhad dros y rhestr cydnabyddiaeth ac ar ei ôl.