Taflen Ciw Cerddoriaeth
Trosolwg
Mae dau fath gwahanol o daflen ciw cerddoriaeth ar gael.
- 408 Taflen Ciw Cerddoriaeth - Mae'r daflen hon i'w ar gyfer unrhyw raglen lle mae'n ofynnol fel deunydd cyfleu
- Templedi Taflen Ciw Cerddoriaeth - Mae'r ffurflen hon ar gyfer cyfresi yn unig, ac nid yw'n cael ei hystyried yn ddeunydd cyfleu
408 Taflen Ciw Cerddoriaeth
Mae'r daflen ciw cerddoriaeth ar gyfer unrhyw raglen unigol neu bennod unigol o gyfres lle mae'r daflen yn ddeunydd cyfleu gofynnol. Mae'r ffurflen a ddefnyddir i ddarparu'r taflenni ciw i'w gweld isod.
Cydrannau'r Daflen
Mae'r dewisydd yn gwymplen sy'n caniatáu i'r defnyddiwr lywio at unrhyw giw o fewn y daflen ciwiau yn syth, ac mae'r botymau yn caniatau i chi symud yn ôl i'r ciw cyntaf (<<), i'r ciw blaenorol (<), i'r nesaf (>) ac i'r olaf (>>). Pan fyddwch yn newid eich dewis o gan, bydd y ffurflen yn llwytho'r data ar gyfer y ciw newydd.
Mae'r manylion yn eich galluogi i ddarparu manylion ar gyfer y gwaith a ddefnyddir yn y ciw yn ogystal â gwybodaeth am sut y'i defnyddir (Cefndir, Nodwedd neu Arwyddgan).
Dylid ychwanegu pawb sydd wedi cyfrannu at y gwaith i'r rhestr hon. Rhaid i bob cofnod gael enw cyntaf a chyfenw yn ogystal â nodi eu rôl yn y gwaith. Yr unig adeg y gellir darparu enw cwmni yn unig yw pan fo'r cyfrannwr yn gyhoeddwr. Gellir ychwanegu cofnodion newydd trwy wasgu'r botwm Ychwanegu (bydd y cofnod newydd yn cael ei ychwanegu ar waelod y rhestr). Gellir dileu cofnodion nad ydych eu hangen trwy wasgu ar y botwm Dileu sy'n cyfateb â hwy.
Fel yn yr adran cyfranwyr, gallwch ychwanegu neu ddileu cofnodion cod amser trwy ddefnyddio'r botymau Ychwanegu a Dileu. Rhaid i chi ddarparu o leiaf un cofnod yn yr adran hon ac mae rhaid i'r amser a nodir yn Cod amser allan fod yn hwyrach na Cod amser i mewn.
Gwybodaeth Ofynnol
Maes | Pryd mae'n Ofynnol |
---|---|
Teitl y Gwaith | Bob tro |
Defnydd y Gerddoriaeth | Bob Tro |
Cerddoriaeth Gomisiwn | Bob Tro |
Categori'r Ffynhonell Wreiddiol | Bob Tro |
Label Rhif ISRC Cynnyrch Rhif Catalog Rhif ISWC Rhif trac | Oni nodir fel arall isod, dewisol yw'r meysydd hyn. Bydd pa feysydd sy'n ofynnol yn ddibynnol ar Gategori'r Ffynhonnell Wreiddiol |
- Ar gyfer Cerddoriaeth Fasnachol - Rhaid cynnwys cyfansoddwr, cyhoeddwr, a pherfformiwr yn yr adran cyfranwyr, ac mae angen cynnwys label cynnyrch a rhif catalog
- Ar gyfer Cerddoriaeth a Gomisiynir - Rhaid cynnwys cyfansoddwr a chyhoeddwr yn yr adran cyfranwyr
- Ar gyfer Artist Perfformiad Byw - Rhaid cynnwys cyfansoddwr, perfformiwr, a chyhoeddwr yn yr adran cyfranwyr
- Ar gyfer Fideo Cerddoriaeth - Rhaid cynnwys cyfansoddwr a chyhoeddwr yn yr adran cyfranwyr
- Ar gyfer Cynhyrchiad (Disg Llyfrgell) - Rhaid cynnwys cyfansoddwr a chyhoeddwr yn yr adran cyfranwyr, ac mae angen cynnwys rhif catalog a label ar gyfer y cynnyrch
Rhaid cynnwys o leiaf un cofnod yn yr adran Cod Amser.
Templedi Taflenni Ciw Cerddoriaeth
Mae Templedi Taflenni Ciw Cerddoriaeth ar gyfer cyfresi yn unig, ac maen nhw'n caniatáu i chi ddarparu gwybodaeth am weithiau a ddefnyddir yn rheolaidd ar y rhaglen. Mae'r arwyddgan, er enghraifft, yn debygol o gael ei defnyddio yn yr un ffordd ym mhob pennod. Trwy ddarparu'r holl wybodaeth am y gwaith ac (pe hoffech) rhai codau amser ar gyfer ei ddefnydd, bydd modd i chi fewnforio'r gwaith i'r daflen ciw cerddoriaeth ar gyfer pennod benodol yn rhwydd.
Yn yr enghraifft hon, byddwch yn sylwi nad oes unrhyw godau amser wedi'u rhoi. Mae'r gallu i arbed heb gynnwys codau amser yn unigryw i'r templedi, ac yn yr achos hwn byddai'n fwy tebygol i'r templed gynnwys rhai codau amser dechrau (gan gymryd bod arwyddgan y rhaglen yn cael ei chwarae ar yr un adeg bob tro - gallwch gynnwys rhai amseroedd dechrau a'u haddasu pan fo'r templed yn cael ei fewnforio i daflen ciwiau wirioneddol).
Awgrym
Sylwch fod y defnydd o'r gwaith hwn wedi'i osod fel Arwyddgan. Os ydych hefyd yn defnyddio'r darn fel cerddoriaeth Gefndir, er enghraifft, nid oes angen creu dau dempled. Gallwch olygu'r gwaith cyn i chi ei arbed, gan ganiatáu i chi ei addasu yn ôl y gofyn.
Gweithredoedd Cyffredin
Mae'r gweithredoedd canlynol ar gael a gellir eu defnyddio mewn Templedi Taflenni Ciw Cerddoriaeth yn ogystal â 408 Taflenni Ciw Cerddoriaeth
- Ychwanegu Newydd - Ychwanegu gwaith newydd i'r daflen ciw cerddoriaeth
- Golygu - Golygu'r gwaith sydd wedi'i ddewis
- Dileu - Dileu'r gwaith sydd wedi'i ddewis o'r daflen ciw cerddoriaeth
- Derbyn y Newid - Derbyn y newid a wnaed (bydd yn arbed newidiadau Ychwanegu Newydd a Golygu, mae dileadau yn cael eu harbed pan gant eu cadarnhau)
- Canslo'r Newid - Canslo'r newid a wnaed (gweler uchod)
- Arbed yr Holl Newidiadau - Arbed yr holl newidiadau a wnaed (mae'r newidiadau a arbedir wedi'u hamlinellu yn yr adran Newidiadau heb eu Harbed)
- Dadwneud yr Holl Newidiadau - Dadwneud yr holl newidiadau a wnaed (bydd hyn yn ail-lwytho’r ffurflen, gan ddisodli'r data sydd ynddi)
Cylch bywyd Newidiadau
Bydd cylch bywyd unrhyw newid yn dibynnu ar ba fath o newid ydyw.
- Ychwanegu Newydd - Ar gael unrhyw bryd y bydd wedi'i alluogi
- Caiff y ffurflen ei chlirio a bydd golygu'n cael ei alluogi
- Caiff y gweithredoedd Derbyn y Newid a Canslo'r Newid eu galluogi, a phopeth arall eu hanalluogi
- Bydd y defnyddiwr yn darparu'r wybodaeth sy'n ofynnol
- Os byddent yn gwasgu Canslo'r Newid, bydd y ffurflen yn dychwelyd i sut oedd hi'n flaenorol a bydd unrhyw ddata a gyflwynwyd yn cael ei golli
- Os byddent yn gwasgu Derbyn y Newid, bydd y data'n cael eu harbed yn fewnol, bydd amlinelliad o'r ychwanegiad yn cael ei ychwanegu i'r adran Newidiadau heb eu Harbed a bydd y gweithredoedd Arbed yr Holl Newidiadau a Dadwneud yr Holl Newidiadau yn cael eu galluogi
- Bydd golygu'n cael ei analluogi a bydd y dewisiadau eraill yn cael eu gosod yn y statws ofynnol
- Golygu - Ar gael pan fo gwaith sydd eisoes yn bodoli wedi'i ddewis yn y gwymplen ar frig y dudalen
- Bydd y data ar gyfer y gwaith dan sylw yn cael ei lwytho i'r ffurflen yn awtomatig, a bydd golygu'n cael ei alluogi
- Bydd y gweithredoedd Derbyn y Newid a Canslo'r Newid yn cael eu galluogi, a phob gweithred arall yn cael eu hanalluogi
- Bydd y defnyddiwr yn gwneud y golygiadau i'r wybodaeth a roddwyd
- Os byddent yn gwasgu Canslo'r Newid, bydd y ffurflen yn dychwelyd i sut oedd hi'n flaenorol a bydd unrhyw ddata a gyflwynwyd yn cael ei golli
- Os byddent yn gwasgu Derbyn y Newid, bydd y data'n cael eu harbed yn fewnol, bydd amlinelliad o'r ychwanegiad yn cael ei ychwanegu i'r adran Newidiadau heb eu Harbed a bydd y gweithredoedd Arbed yr Holl Newidiadau a Dadwneud yr Holl Newidiadau yn cael eu galluogi
- Bydd golygu'n cael ei analluogi a bydd y dewisiadau eraill yn cael eu gosod yn y statws ofynnol
- Dileu - Ar gael pan fo gwaith sydd eisoes yn bodoli wedi'i ddewis yn y gwymplen ar frig y dudalen
- Bydd gofyn i'r defnyddiwr gadarnhau'r weithred o ddileu
- Os ydynt yn canslo’r weithred o ddileu, bydd dim yn digwydd gan na newidiwyd data'r ffurflen, y cyflwr golygu na'r cyflwr rheoli
- Os ydynt yn cadarnhau'r weithred o ddileu, bydd y gwaith a ddewiswyd yn cael ei ddileu, bydd amlinelliad o'r dilead yn cael ei ychwanegu i'r adran Newidiadau heb eu Harbed a bydd y gweithredoedd Arbed yr Holl Newidiadau a Dadwneud yr Holl Newidiadau yn cael eu galluogi
- Bydd y dewisiadau eraill yn cael eu gosod yn y statws sy'n ofynnol
Nodyn
Oherwydd y ffordd y maent wedi cael eu dylunio, ni ellir analluogi'r ddau fotwm ar gyfer lawrlwytho'r daflen ciw cerddoriaeth ar ffurf RTF neu CSV. Os ydych yn gwasgu un o'r botymau hyn ar ddamwain ac yn gadael y ffurflen yn anfwriadol, gallwch adfer unrhyw newidiadau oedd heb eu harbed trwy ddychwelyd at y ffurflen trwy ei dewis o'r goeden lywio.
Mewnforio Templed
I fewnforio templed, dylech ddilyn y camau a nodir isod.
- Dewiswch y templed gwaith rydych eisiau ei fewnforio trwy ddefnyddio'r gwymplen yn yr adran Mewnforio o'r Templed
- Gwasgwch Mewnforio Gwaith
Dyma sut mae hynny'n edrych yn ystod y broses o wneud.
Pan fyddwch yn gwasgu Mewnforio Gwaith bydd y ffurflen yn gwirio i weld a oes gwaith â'r un teitl eisioes wedi'i gynnwys yn y daflen. Os oes un, bydd yn gofyn a ydych eisiau parhau.
Unwaith y bydd wedi'i fewnforio, bydd fel pe baech wedi gwasgu Ychwanegu Newydd ac wedi darparu'r holl wybodaeth â llaw. Gallwch wneud unrhyw newidiadau pellach yn ôl yr angen cyn gwasgu Derbyn y Newid i arbed neu Canslo'r Newid i ganslo.
Y Clipfwrdd Taflen Giwiau
Er mwyn caniatáu symudiad màs ciwiau cerddoriaeth (o'r templedi ar gyfer tymor 1 mewn cyfres, a'r templedi ar gyfer tymor 2 y gyfres), mae clipfwrdd wedi'i ddarparu.
Mae gweithrediad y clipfwrdd yn syml. Bydd y rheolyddion yn cael eu galluogi pan fyddwch chi'n gallu eu defnyddio ac maen nhw'n gwneud yn union yr hyn maen nhw'n ei ddweud.
- Cadw i'r Clipfwrdd - Bydd yn cadw'r daflen ciw gyfredol yn ei chyfanrwydd i'r clipfwrdd. Rhaid bod gennych o leiaf un eitem ar y ddalen er mwyn i'r opsiwn hwn fod ar gael. Mae'r opsiwn hwn ar gael wrth edrych ar ffurflenni sy'n weddill ac wedi'u harchifo
- Llwyth o'r Clipfwrdd - Bydd yn llwytho cynnwys y clipfwrdd i'r daflen ciw gyfredol, gan drosysgrifo'r holl gynnwys presennol. Bydd yr opsiwn hwn ar gael pan fydd data yn y clipfwrdd a'ch bod yn edrych ar ffurflenni sy'n weddill yn unig
- Clirio'r Clipfwrdd - Bydd yn clirio'r data o'r clipfwrdd. Mae'r opsiwn hwn ar gael wrth edrych ar ffurflenni sy'n weddill ac wedi'u harchifo
Ynghyd â'r botymau gweithredu, mae'r rheolyddion clipfwrdd yn cynnwys disgrifiad byr o gynnwys y clipfwrdd. Mae hwn yn cael ei gopïo o deitl y ffurflen pan fydd y botwm Cadw i'r Clipfwrdd yn cael ei glicio.
Cwblhau Taflen Ciw Cerddoriaeth
Nodyn
Dim ond ar gyfer 408 Taflen Ciw Cerddoriaeth y mae'r dewis hwn ar gael.
Pan fo manylion yr holl weithiau a ddefnyddir mewn rhaglen wedi'u darparu, a phob newid wedi'u harbed, gellir cwblhau'r ffurflen hon trwy wasgu'r botwm Cwblhau yn yr adran Gweithredoedd. Bydd angen i chi gadarnhau eich bod eisiau cwblhau'r ffurflen.
Cadw ac Adfer Data
Mae'r adran golygu taflenni ciw cerddoriaeth ar gyfer templedi cyfres yr un fath ag un y taflenni ciwiau rhaglenni. Pan fyddwch yn derbyn newid, yn hytrach na danfon yr holl ddata yn ôl i'r gweinydd, caiff ei arbed yn lleol yn eich porwr ynghyd ag ychydig o wybodaeth sylfaenol sy'n adnabod pa wrthrych (pa gyfres, pennod, neu raglen unigol) y mae'n ymwneud ag o yn ogystal ag amlinelliad o'r newidiadau a wnaed. Bydd y data hwn yn parhau nes y bydd yn cael ei glirio.
Mae hyn yn golygu, os bydd eich sesiwn yn darfod cyn i chi gael cyfle i arbed y newidiadau, y tro nesaf y byddwch yn ymweld â'r ffurflen ciw cerddoriaeth bydd yn gwirio'r storfa leol, ac os bydd unrhyw ddata heb eu harbed yno, bydd yn gofyn i chi weithredu ar hynny. Bydd pa weithredoedd a fydd ar gael i chi yn dibynnu ar ba ddata sydd wedi'u storio ac ar ba ffurflen yr ydych wedi'i hagor.
Os ydych wedi ceisio llwytho taflen ciw sy'n gysylltiedig â gwrthrych arall, byddwch yn gweld y neges ganlynol "Mae data heb ei gadw ar gyfer eitem arall yn cael ei gadw'n lleol. Hoffech chi lwytho'r eitem arall i adolygu/cadw'r data? Os na wnewch chi hynny, bydd y data'n cael ei glirio."
Ar y pwynt hwn, gallwch ddewis gwasgu Canslo, ac o wneud bydd y data sydd heb eu harbed yn cael eu clirio o storfa'r porwr a bydd y data sy'n ymwneud â'r eitem yr ydych newydd ei ddewis yn cael ei lwytho yn barod i'w golygu. Pe gwasgwch OK, byddwch yn cael eich ailgyfeirio i'r daflen ciw cerddoriaeth y mae'r data yn perthyn iddo.
Os ydych wedi ceisio llwytho’r daflen ciw cerddoriaeth yr oeddech yn ei olygu gynt, byddwch yn gweld neges sy’n dweud ”Mae data heb ei gadw ar gyfer yr eitem hon yn cael ei gadw’n lleol. Mae gan y data stamp amser o
Fel y mae’r neges yn ei ddweud, gallwch wasgu Canslo, gan glirio’r data a llwytho’r data yr ydych newydd ei dderbyn o’r gweinydd, neu wasgu OK, gan lwytho’r data sydd wedi’u storio yn eich porwr er mwyn i chi adolygu’r newidiadau a’u harbed pe dewiswch hynny.
Gwybodaeth
Yn unol â’r polisi o geisio atal defnyddwyr rhag colli eu gwaith, mae’r ffurflen hon yn cynnwys gwiriadau sy’n ceisio amlygu unrhyw adegau lle gall data gael ei golli wrth i chi lywio oddi wrth y ffurflen. Mae’r gwiriadau a’r nodiadau atgoffa yn dal i ddigwydd er bod y perygl o golli data yn llai o lawer.
Rhybudd
Dylech fod yn ofalus pan fyddwch yn ystyried a ydych eisiau llwytho’r data sydd wedi’u storio yn y porwr neu ddim. Mae’n bosibl, gan ddibynnu ar oedran y data, y gallai rhywun arall fod wedi gwneud newidiadau ac y byddwch chi yn eu dileu trwy adfer y data sydd wedi’i storio. Dyma’r rheswm bod stamp amser i’w weld ar y data. Os bydd eich sesiwn fewngofnodi yn dod i ben yn ddirybudd a chithau newydd wasgu Arbed yr holl Newidiadau, mae’r perygl o ailfewngofnodi, llwytho’r daflen eto ac adfer y data yn isel iawn. Fodd bynnag, os oes amser wedi bod ers ichi olygu, mae’n bosibl y bydd rhywun arall wedi golygu’r data, a byddwn yn argymell i chi ddewis Canslo ac anghofio am y data a gadwyd yn lleol.
Lawrlwytho Taflenni Ciw Cerddoriaeth
Gellir allforio taflenni ciw cerddoriaeth ar ffurf ffeiliau rich text (RTF) a ffeiliau comma separated (CSV). Mae’r dewisiadau o ran allforio i’w cael ar waelod y ffurflen, fel y gwelir isod.
Gwasgwch ar ba bynnag fformat yr ydych ei angen a byddwch yn gweld neges yn gofyn i chi ddewis enw ffeil ar gyfer y lawrlwythiad. Dewiswch ble hoffech arbed y ffeil, nodwch enw, gwasgwch Arbed a bydd y lawrlwythiad yn dechrau.