Neidio i'r cynnwys

Dechrau Arni

Mewngofnodi

Er mwyn dechrau arni gyda PAC ewch i https://pac.s4c.cymru. Er mwyn mewngofnodi byddwch angen enw defnyddiwr a chyfrinair (cant eu darparu gan S4C neu gan y cwmni cynhyrchu yr ydych yn gweithio iddynt).

Ciplun o dudalen mewngofnodi PAC

Rhowch eich enw defnyddiwr a'ch cyfrinair a gwasgwch y botwm 'Logio'. Os yw manylion eich cyfrif yn ddilys bydd y broses fewngofnodi yn parhau. Pe bydd problem wrth fewngofnodi byddwch yn dychwelyd i'r dudalen fewngofnodi a bydd gwybodaeth bellach yn cael ei ddarparu i chi.

Nodyn

Cofiwch fod cyfrineiriau yn sensitif i briflythrennau. Mae hyn yn rhywbeth a gyflwynwyd yn y fersiwn newydd o PAC er mwyn gwella diogelwch y system.

Rhybudd

Os nad oes gennych fanylion mewngofnodi, mae'n debyg nad ydych i fod yma, a dylech nodi bod pob ymgais aflwyddiannus i fewngofnodi yn cael eu cofnodi, yn ogystal ag unrhyw ymdrechion i gael mynediad at rannau o'r system heb awdurdod.

Fel rhan o'r broses fewngofnodi, bydd y system yn cynhyrchu adroddiad sy'n dangos pa ddeunyddiau cyfleu yr ydych â hawl amdanynt sydd yn hwyr, yn ddyledus yn y 30 diwrnod nesaf, neu'r rhai sydd wedi'u gwrthod gan staff S4C.

Ciplun yn dangos yr adroddiad deunyddiau cyfleu a ddangosir yn y broses fewngofnodi

Er mwyn parhau â'r broses fewngofnodi, dylech fynd i waelod y dudalen a gwasgu'r botwm Parhau. Pe hoffech weld yr adroddiad eto, gallwch gael mynediad ato o'r goeden lywio trwy ddewis Cyflawniadau'r Cwmni (Rhagor o wybodaeth...).

Terfyn Amser Sesiwn

Ar ôl i chi fewngofnodi, os nad ydych yn defnyddio’r system am gyfnod penodol bydd eich sesiwn yn darfod a bydd rhaid i chi fewngofnodi drachefn. Pan fydd hyn yn digwydd, bydd y sgrin ganlynol yn ymddangos.

Ciplun o

Gweithgarwch Safle

Pan fydd PAC yn disgwyl ymateb gan y gweinydd, bydd logo S4C wedi'i animeiddio yn cael ei ddangos. Gwneir hyn er mwyn dangos i chi, y defnyddiwr, bod rhywbeth yn digwydd ac er mwyn cuddio'r sgrin rhag i chi ddechrau sawl gweithred ar unwaith.

Ciplun o

Nodyn

Mae un lle pan na ddefnyddir y logo wedi'i animeiddio, sef y goeden lywio. Yn hytrach, bydd y testun "llwytho coeden lywio, arhoswch os gwelwch yn dda..." i'w weld.

Rhybudd

Er bod y rhan fwyaf o weithredoedd yn gallu cael eu cyflawni yn eithaf cyflym, mae rhai angen mwy o amser. Er enghraifft, mae mewngofnodi am y tro cyntaf yn cymryd amser, a hynny oherwydd bod yr ymholiad a ddefnyddir i greu'r rhestr o ddeunyddiau cyfleu hwyr yn eithaf cymhleth ac yn cymryd tipyn o amser i'w gyflawni, hyd yn oed pan nad oes dim yn ddyledus, felly byddwch yn amyneddgar a rhowch gyfle i'r wefan lwytho cyn gwasgu'r botwm ail-lwytho os ydych yn amau nad yw'r wefan yn gweithio.

Llywio

Er mwyn llywio o fewn PAC, mae coeden lywio i'w chael ar ochr chwith y dudalen. Mae'n debygol mai dyma sut bydd yn edrych pan fyddwch newydd fewngofnodi.

Ciplun yn dangos prif dudalen PAC a

Er mwyn llywio trwy'r wefan, mae angen agor a chau ffolderi a gwasgu ar ddolenni’r goeden lywio.

Agor a Chau Ffolderi

I agor ffolder, gwasgwch yr eicon sydd wrth ei hymyl. Mae'r eicon hwn hefyd yn arwydd bod eitemau eraill o fewn y ffolder. Unwaith y byddwch wedi'i hagor, bydd yr eitemau oddi mewn i'w gweld a bydd yr eicon yn newid i fod yn a gallwch ei wasgu er mwyn cau'r ffolder.

Dewis Eitemau

Bydd y labeli testun ar gyfer eitemau y gallwch edrych ar dudalen ohonynt wedi'u tanlinellu.

Mae'r ciplun nesaf yn dangos y goeden lywio gyda'r canghennau ar gyfer "I28919 Life and Times of An Old Bint", "I28919/005" (pennod 5) a "405 Prog Del Form" wedi'u hagor.

Ciplun o

Nid yw'r goeden lywio yn caniatáu i chi agor mwy nag un ffolder ar lefel benodol, yn yr enghraifft yma felly, pe baech chi'n agor y ffolder ar gyfer y gyfres "I28894 Cyw 14 - Awyr Iach", byddai'r ffolder ar gyfer "I28919 Life and Times of An Old Bint" yn cael ei chau.

Arferion Dogfennu

Bydd canllawiau llywio ag iddynt sawl cam yn cael eu dangos fel a ganlyn.

Cam 1 > Cam 2 > Cam 3

Yn yr enghraifft yma, dylai'r defnyddiwr ddewis yr eitem a ddiffinnir gan 'Cam 1' yn gyntaf, yna 'Cam 2', ac yna 'Cam 3' yn olaf, gan gofio na fydd rhai o'r camau i'w gweld nes bydd y camau blaenorol wedi'u cymryd.

Atal Colled Data

Lle bynnag y bo'n bosibl, rydym wedi ymdrechu i'ch atal rhag colli gwaith pan fyddwch yn cau ffurflen sy'n cynnwys newidiadau sydd heb eu harbed. Yn anffodus, mae'r ymdrechion yn cael eu cyfyngu gan y broses fewnol a ddefnyddir gan borwyr i drin digwyddiadau llywio. Y rhan fwyaf o'r amser, bydd neges naid yn ymddangos yn eich porwr i'ch atgoffa. Isod mae neges o'r fath gan Google Chrome i'w gweld.

Ciplun yn dangos y neges deialog

Pan fyddwch yn dechrau llywio oddi wrth ffurflen, yr unig beth y gallwn ni ei wneud yw sbarduno'r deialog. Fodd bynnag, mewn rhai achosion eraill gallwn wneud mwy, a byddwch yn gweld neges wahanol.

Gweithredu Cyffredinol

Enwau Meysydd

Mae enwau meysydd sydd wedi'u nodi mewn bold yn golygu bod y meysydd hynny yn orfodol a bod rhaid darparu data ar eu cyfer.

Botwm Arbed

Pan fyddwch yn defnyddio'r gwahanol ffurflenni o fewn y system, bydd y botwm 'Arbed' ond yn ymddangos pan fo rhywbeth wedi'i newid. Os byddwch yn gwneud camgymeriad, neu'n cael eich galw oddi wrth eich desg, ac yn ansicr beth sydd wedi'i newid, gallwch lwytho'r ffurflen eto trwy ei dewis eto o'r goden lywio. Os bydd newidiadau wedi'u gwneud, byddwch yn gweld neges gan eich porwr yn gofyn a ydych eisiau gadael y dudalen a cholli'r newidiadau a wnaed.

Botwm Cwblhau

Pan fo ffurflen benodol (deunydd cyfleu) yn gallu cael ei chwblhau, bydd y botwm 'Cwblhau' yn cael ei alluogi. Pan fyddwch yn gwasgu arno, bydd yn gofyn ichi gadarnhau eich bod am gwblhau'r ffurflen. Os ydych yn cadarnhau, bydd y ffurflen yn cael ei chyflwyno gyda'r manylion a roddwyd a bydd yn cael ei nodi fel ffurflen wedi'i chwblhau. Mae eitemau sydd wedi'u cwblhau yn cael eu symud i'r adran archif.

Rhybudd

Bydd eitemau sydd wedi'u cwblhau yn cael eu hadolygu gan staff S4C a gallent gael eu gwrthod. Os bydd hyn yn digwydd, byddent yn cael eu dangos fel eitemau 'Wedi'u gwrthod' yn y rhestr deunyddiau cyfleu, a chant eu symud o'r archif yn ôl i'r ardal comisiynau byw er mwyn i chi eu diweddaru yn ôl yr angen.

Botwm Top

Pan fyddwch yn cyrraedd gwaelod tudalen fawr, bydd botwm Top yn ymddangos. O wasgu'r botwm byddwch yn dychwelyd at frig y dudalen. Gellir gweld hyn yn y ciplun canlynol.

Ciplun o

Eiconau Cyffredin

Eicon Diben
Eicon yn dangos saeth sy'n anelu i'r dde Dewis y cofnod - Defnyddir hwn fel arfer i ganiatáu i'r defnyddiwr ddewis y cofnod dan sylw (er enghraifft, caiff ei ddefnyddio i ddewis artistiaid, cyfranwyr a defnyddwyr er mwyn gwneud gwaith pellach)
Eicon yn dangos bin sbwriel Dileu'r cofnod - Defnyddir hwn fel arfer mewn tablau pan fo'r defnyddiwr yn gallu dileu'r cofnod dan sylw (er enghraifft, dileu hawliau mynediad defnyddwyr llawrydd at gyfres neu raglen benodol)
Eicon yn dangos pensel Golygu'r cofnod - Defnyddir hwn fel arfer mewn tablau er mwy dewis y cofnod dan sylw a'i olygu (er enghraifft, diweddaru manylion artist penodol, diweddaru manylion defnyddiwr neu newid eu cyfrinair)

Gwirio Data

Caiff y data o fewn y gwahanol ffurflenni eu gwirio ar gamau gwahanol, yn unol ag anghenion y ffurflenni eu hunain. Weithiau caiff meysydd unigol eu gwirio wrth iddynt gael eu golygu, a dro arall bydd y ffurflen gyfan yn cael ei gwirio pan fo'r botwm 'Arbed' yn cael ei wasgu.

Pan fo methiant wrth wirio, bydd y defnyddiwr yn cael ei hysbysu yn un o'r ffyrdd canlynol.

  • Neges naid sy'n hysbysu'r defnyddiwr o'r hyn sy'n anghywir
  • Ymylon coch o gwmpas y meysydd sy'n anghywir
  • Negeseuon sy'n ymddangos pan fo'r defnyddiwr yn dal y llygoden uwchben maes, neu sy'n cael eu dangos wrth ymyl y maes (oddi tanynt fel arfer, neu i'r dde ohonynt)
  • Cyfuniad o'r dulliau hyn

Dyma enghraifft o'r ffurflen Ychwanegu Defnyddiwr sy'n dangos yr ymylon coch a'r negeseuon.

Ciplun yn dangos y ffurflen ychwanegu defnyddiwr gydag ymylon coch gwall o gwmpas y meysydd sy

Lliwiau Cefndirol Rhesi Tablau

Bellach mae'r rhesi yng ngwahanol dablau'r system yn cael eu dangos mewn gwahanol liwiau bob yn ail, a hynny er mwyn ei gwneud yn haws i'w darllen.

Ciplun yn dangos y gwahanol liwiau a ddefnyddir ar gyfer rhesi yn nhablau PAC
ArferolAmgenY lliwiau hyn a ddefnyddir ar gyfer y rhan fwyaf o resi mewn tablau
RhybuddAmgenMae'r lliwiau hyn yn cael eu defnyddio i amlygu pethau a allai fod angen eich sylw (deunydd cyfleu wedi'i wrthod, er enghraifft)
Wedi'i GwblhauAmgenMae'r lliwiau hyn yn cael eu defnyddio i amlygu pethau sydd wedi'u cwblhau
AmlyguDefnyddir y lliw hwn i amlygu'r rhes dan sylw. Yn yr achos hwn, y rhes dan sylw yw'r un o dan y llygoden

Cael Cymorth

Mae'r cymorth yma ar gael trwy wasgu ar y ddolen Cymorth Ar-lein yn y faner. Mae'r rhanfwyaf o dudalennau yn caniatau i chi wasgu F1 hefyd, ac os felly bydd yn eich arwain yn syth i'r adran sydd fwyaf perthnasol i'r dudalen yr ydych arni.

Iaith

Bydd iaith eich cyfrif yn cael ei gosod pan fydd eich cyfrif yn cael ei greu. Os ydych eisiau newid yr iaith a ddefnyddir bydd angen i chi drafod hynny gyda'r cwmni sy'n gyfrifol am eich cyfrif. Fodd bynnag, mae modd i chi newid yr iaith yn ystod sesiwn unigol (neu nes y byddwch yn ei newid yn ôl) trwy ddefnyddio'r botwm newid iaith yn y faner.

Mae hwn i'w weld o dan y ddolen cymorth, ac mae'n nodi pa iaith sydd wedi'i dewis ar y funud ac yn rhoi'r dewis i chi newid yr iaith.

Enghraifft - Wrth Ddefnyddio'r Saesneg

English - Newid i'r Gymraeg

Trwy wasgu'r ddolen sy'n dweud Newid i'r Gymraeg bydd yr iaith yn newid i'r Gymraeg.

Nodyn

Fel y nodwyd uchod, bydd y newid hwn yn parhau tan ddiwedd eich sesiwn, neu nes y byddwch yn ei newid yn ôl. Hefyd, dylech fod yn ymwybodol bod newid yr iaith yn golygu y byddwch chi'n cael eich dychwelyd i'r dudalen a ddangosir yn syth ar ôl i chi fewngofnodi, nid oes modd osgoi hyn yn anffodus.