Adborth
Adborth Cyffredinol
Os byddwch chi'n cael unrhyw drafferth wrth ddefnyddio PAC neu'r cymorth ar-lein cysylltiedig, gadewch i S4C wybod os gwelwch yn dda. Dylech gynnwys y wybodaeth ganlynol:-
- Eich enw a'ch manylion cyswllt
- Eglurhad o'r mater dan sylw
- Delwedd sy'n dangos y mater neu ddelwedd a allai gynnig rhagor o fanylion i egluro'r mater
- Unrhyw wybodaeth bellach a allai fod yn ddefnyddiol
Argymhelliad
Mae'r eitem Unrhyw wybodaeth bellach yn cwmpasu amrywiaeth o wahanol bethau. Yn ei hanfod, mae'n golygu unrhyw beth yr ydych chi'n tybio a allai fod yn berthnasol i'r adborth a roddir. Er enghraifft, os ydych chi eisiau dweud nad yw statws y botymau yn amlwg, nodwch a yw hynny'n digwydd oherwydd y dewis o liwiau? Os felly, a oes gennych chi gyflwr sy'n effeithio ar eich gallu i weld lliwiau, a allai hynny ddylanwadu ar y mater? Os hynny, ceisiwch roi manylion i ni, mae meddalwedd ar gael i ddatblygwyr sy'n gallu efelychu gwahanol gyflyrau golwg a allai eu helpu i ddeall eich adborth.
Bygiau
Mae bygiau i'w cael ym mhob system meddalwedd, felly os ydych chi'n credu eich bod byg yn achosi problemau i chi, dywedwch wrth S4C os gwelwch yn dda. Dylech gynnwys y wybodaeth ganlynol:-
- Eich enw a'ch manylion cyswllt
- Yr Enw Defnyddiwr yr oeddech yn ei ddefnyddio i gael mynediad i PAC
- Pa raglen yr oeddech chi'n gweithio arni
- Disgrifiad o'r broblem yr ydych chi'n credu sy'n cael ei achosi gan fyg
- Eglurhad o'r hyn yr oeddech chi'n ei wneud ar y pryd
- O leiaf un sgrîn-lun sy'n dangos y mater - gall fod o gymorth i weld sut oedd pethau cyn iddo ddigwydd yn ogystal â sut oedd pethau ar ôl iddo ddigwydd
- Unrhyw wybodaeth bellach a allai fod yn ddefnyddiol yn eich tyb chi
Awgrym
Os nad ydych chi'n si?r a yw rhywbeth yn fyg neu ddim, gallwch gysylltu â ni yn S4C i holi. Efallai ei fod yn fater sy'n hysbys i ni, a bod y datblygwyr meddalwedd eisoes â'r wybodaeth y maen nhw ei angen i ddatrys y mater.
Awgrym
Os nad ydych chi'n si?r sut i egluro mater, mae'n debyg mai'r ffordd orau o ddangos y broblem yw gwneud recordiad o'r sgrin. Fel arall, gallwn drefnu i chi gael cyfarfod fideo â'r datblygwyr meddalwedd er mwyn i chi ddisgrifio'r broblem a'i ddangos iddyn nhw'n uniongyrchol.
Awgrym
Fel yr ydym ni wedi'i nodi uchod, mae'r eitem Unrhyw wybodaeth bellach yn cwmpasu amrywiaeth o wahanol bethau, ond gyda bygiau gall y posibiliadau deimlo'n ddi-ben-draw, ac os ydych chi'n cael problem sy'n teimlo fel pe bai'n digwydd ar hap gall fod yn anodd iawn. Os ydych chi'n cael problem dro ar ôl tro, a'i bod yn teimlo fel pe bai'n digwydd ar hap, gallai cadw dyddiadur o'r digwyddiadau fod o gymorth, gan gofnodi cymaint o fanylion ag y gallwch ynddo. Er y bydd yn edrych fel casgliad digysylltiad o wybodaeth, pwy a ?yr, gallai ddatgelu fod y broblem ond yn digwydd adeg te dri ar bnawniau Mercher, pan fo Ann o'r adran olygu yn penderfynu ei bod hi'n haeddu cacen a jwg arall o goffi. Os nad ydych chi'n si?r, gwnewch gofnod rhag ofn... gallai wneud gwahaniaeth!
Rhannu Eich Gwybodaeth
Efallai byddwn ni (S4C) yn dymuno rhannu eich gwybodaeth â datblygwyr PAC er mwyn adrodd am adborth a chofnodi bygiau. Os nad ydych eisiau i ni wneud hyn, nodwch hynny'n amlwg pan fyddwch yn cysylltu â ni am faterion bygiau neu adborth cyffredinol os gwelwch yn dda.