Deunydd Cyfleu
Rhestr Deunydd Cyfleu
Mae'r adroddiad deunydd cyfleu yn rhoi adborth i chi o ran statws y deunydd cyfleu y mae disgwyl i chi eu cyflwyno ac ar ba ddyddiad y disgwylir iddynt gael eu cyflwyno. Ar gyfer rhaglenni unigol, un adroddiad sydd ar gyfer holl ddeunyddiau cyfleu. Ar gyfer cyfresi, bydd adroddiad lefel cyfres ar gyfer deunyddiau cyfleu sy'n gysylltiedig â'r gyfres, yn ogystal ag adroddiad i bob pennod sy'n manylu ar ddeunyddiau cyfleu'r rhaglen dan sylw.
Mae'r cipluniau canlynol yn dangos sawl statws posibl ar gyfer deunyddiau cyfleu.
Deunyddiau Cyfleu a Wrthodwyd
Bydd yr holl ddeunyddiau cyfleu yn cael eu hadolygu gan staff S4C, ac maen nhw'n cadw'r hawl i'w gwrthod. Bydd eitemau o'r fath yn cael eu nodi fel rhai a wrthodwyd a byddent yn ymddangos felly yn rhestrau deunyddiau cyfleu PAC.
Gellir gwrthod eitemau am amryw o wahanol resymau. Os nad ydych yn gwybod pam fod eitem wedi'i wrthod, dylech gysylltu â S4C er mwyn cael rhagor o wybodaeth.