Cyfranwyr
Ar y ffurflen cyfranwyr byddwch yn cofnodi cyfraniad unrhyw un sydd heb dderbyn cytundeb undebol am eu cyfraniad. Os ydynt yn derbyn cytundeb undebol rhaid eu cofnodi fel artist. Os nad ydych yn siŵr, cyfeiriwch at Artist neu Gyfrannydd.
Ychwanegu Cyfrannwr
Er mwyn ychwanegu cyfrannwr, gallwch un ai chwilio am gyfrannwr sydd eisoes ar y system trwy ddefnyddio eu rhif Yswiriant Gwladol, eu henw neu eu dyddiad geni, neu gallwch ychwanegu gwybodaeth am gyfrannwr yn yr adran Ychwanegwch gyfrannwr.
Chwilio
I chwilio, rhowch y data yn y blwch Chwilio am Gyfrannwr a gwasgwch Chwilio. Os ydych yn chwilio am rif Yswiriant Gwladol a bod y chwiliad yn llwyddiannus, bydd manylion yr unigolyn dan sylw yn cael eu llwytho i'r adran Ychwanegwch Gyfrannwr, yn barod ichi ddarparu rhagor o fanylion a'u hychwanegu fel cyfrannwr. Os ydych yn chwilio gan ddefnyddio enw neu ddyddiad geni, bydd y ffurflen (os bydd y chwiliad yn llwyddiannus) yn cynnig rhestr o unigolion sy'n bodloni'r criteria
Er mwyn dewis yr unigolyn dan sylw gwasgwch yr eicon dewis yn y rhes sy'n cyfateb â hwy. Yna, bydd y manylion yn cael eu llwytho i'r adran Ychwanegwch Gyfrannwr, yn barod i chi ddarparu rhagor o fanylion a'u hychwanegu fel cyfrannwr.
Cyfraniad
Dewiswch pa fath o gyfraniad a wnaed i'r rhaglen gan yr unigolyn. Os mai'r cyfarwyddwr yw'r unigolyn dan sylw a chithau ddim yn gwybod beth yw eu rhif Yswiriant Gwladol, gallwch eu cofnodi yma, os yw eu rhif Yswiriant Gwladol yn hysbys dylech eu cofnodi fel artist. Os nad ydych yn siŵr cyfeiriwch at yr adran Artist neu Gyfrannwr.
Golygu Cyfrannwr
Os byddwch angen golygu manylion cyfrannwr, gwasgwch ar yr eicon golygu yn y rhes sy'n cyfateb â hwy. Bydd eu manylion yn cael eu llwytho i mewn i ffurflen olygu er mwyn eich galluogi i wneud unrhyw olygiadau. Wedi i chi wneud y golygiadau, gwasgwch Arbed.
Dileu Cyfrannwr
Os byddwch angen dileu cyfrannwr o raglen/cyfres yn llwyr, gwasgwch eu heicon dileu. Bydd gofyn i chi gadarnhau'r weithred hon, fel y gwelir isod.
Ychwanegu Cyfranwyr i Benodau
Gyda chyfresi, bydd angen i chi ddarparu gwybodaeth am ba benodau y mae pob cyfrannwr wedi cyfrannu atynt. Er mwyn gwneud hyn, agorwch ffolder Cyfranwyr y gyfres a dewiswch Ychwanegu Penodau. Bydd ffurflen debyg i'r un a ddangosir isod yn ymddangos.
Mae'r ffurflen yn cynnig dwy restr, Cyfranwyr a Penodau, gallwch gysylltu cyfranwyr gyda phenodau trwy ddewis y cyfranwyr a'r penodau o'r rhestrau a gwasgu Arbed. Pe dewiswch ddau gyfrannwr a thair pennod, bydd y ddau gyfrannwr yn cael eu cysylltu â'r tair pennod a ddewiswyd. I wneud pethau'n haws, mae modd Dewis y cyfan a Dad-ddewis y cyfan ar waelod y dudalen, fel y gwelir isod.
Dileu Cyfranwyr o Benodau
Pe byddwch angen dileu cyfrannwr o bennod o gyfres, agorwch ffolder Cyfranwyr y gyfres a dewiswch Dileu Penodau*. Bydd ffurflen debyg i'r un isod yn ymddangos.
Y cam cyntaf yw dewis pa gyfrannwr yr ydych am eu dileu o'r penodau trwy wasgu ar eu heicon dewis. Bydd y ffurflen yn ail-lwytho i ddangos rhestr o'r penodau sydd wedi'u cysylltu â'r cyfrannwr, fel y gwelir isod.
I ddileu cyfrannwr o bennod, gwasgwch ar yr eicon dileu ar gyfer y bennod honno. Bydd gofyn i chi gadarnhau'r weithred hon.
Byddwch yn sylwi bod rhai penodau wedi'u nodi fel Wedi ei dderbyn. Mae'r penodau hyn eisioes wedi'u cwblhau ac nid oes modd dileu cyfranwyr ohonynt. Pe byddwch angen eu dileu, dylech gysylltu â S4C. Efallai bydd modd dychwelyd y rhestr cyfranwyr ar gyfer y bennod i chi er mwyn i chi ei golygu.
Cwblhau Rhestr Cyfranwyr
Rhaid nodi bod rhestrau cyfranwyr wedi'u cwblhau. Ar gyfer rhaglenni unigol, bydd y botwm cwblhau i'w weld ar y brif dudalen Cyfranwyr. Ar gyfer cyfresi, bydd i'w weld ar y dudalen Ychwanegu Pennod.
Er mwyn cwblhau rhestr cyfranwyr ar gyfer pennod, agorwch dudalen Ychwanegu Pennod y cyfrannwr. Dewiswch y bennod dan sylw o'r rhestr penodau a gwasgwch Cwblhau.
Cyn gwasgu cwblhau, dylech sicrhau bod Cynhyrchydd a Chyfarwyddwr wedi'u penodi i'r rhaglen/pennod. Pe byddwch yn cwblhau'r rhestr heb eu cynnwys, bydd staff S4C yn gwrthod y ffurflenni.