Disgrifiadau Rhybuddion Cynnwys
Y cam cyntaf (ac efallai'r unig gam wrth gwblhau'r ffurflen hon) yw defnyddio'r botymau Oes a Na er mwyn nodi a yw'r rhaglen angen unrhyw rybuddion cynnwys neu ddim.
Os nad yw'r rhaglen angen hysbysiadau cynghori i rybuddio am y cynnwys, dewiswch Na a gwasgwch Arbed ar waelod y ffurflen.
Nodyn
Bydd dewis Na yn dileu'r ticiau a roddwyd yn y blychau gyferbyn â'r ymadroddion.
Os yw'r rhaglen angen rhybudd cynnwys, dewiswch Oes. Bydd hyn yn caniatáu i chi roi ticiau yn y blychau sydd gyferbyn a'r disgrifiadau er mwyn nodi pa rai sy'n berthnasol (rhaid dewis o leiaf un). Pan fyddwch wedi dewis y disgrifiadau perthnasol, ewch i waelod y ffurflen a gwasgwch y botwm Arbed.
Pwysig
Pan fyddwch yn dewis disgrifiadau, dewiswch y nifer leiaf sydd ei angen ac ystyriwch unrhyw gyngor a roddwyd i chi o ran pa ddisgrifiadau i'w defnyddio a phryd.
Gwybodaeth
Bydd y meysydd mewngofnodi a dyddiad/amser yn cael eu llenwi unwaith y bydd y data wedi'u cadw.
Nid oes botwm Cwblhau gan ei fod yn rhan o Ffurflen Cyfleu'r Rhaglen.