Eitemau heb eu Derbyn
Yr adroddiad Eitemau heb eu Derbyn yw'r adroddiad a welir gan ddefnyddwyr yn ystod y broses fewngofnodi.
Mae'n dangos yr holl eitemau heb eu derbyn sy'n bodloni'r gofynion canlynol.
- Mae'r eitem yn ddyledus o fewn y 30 diwrnod nesaf
- Mae'r eitem yn hwyr
- Mae'r eitem eisoes wedi'i ddanfon/cwblhau ond mae staff S4C wedi'i wrthod
Pan fyddwch yn edrych ar yr adroddiad ar y dudalen hon mae modd clicio ar resi'r adroddiad. Pan fyddwch yn clicio ar res, bydd yn ceisio agor yr eitem fwyaf perthnasol yn y goeden lywio a'i symud i'r golwg er mwyn i chi allu canfod eitemau cysylltiedig i weithio arnynt. Mae'r weithred hon i'w gweld isod, yn y llun mae'r defnyddiwr wedi clicio ar y rhes sydd wedi'i hamlygu ac mae'r goeden lywio wedi'i hagor yn y lle priodol.