Artist neu Gyfrannwr
Beth yw'r gwahaniaeth rhwng artist a chyfrannwr?
Ar ateb syml yw bod artist yn aelod o undeb, fel Equity neu'r Musicians Union, ac o ganlyniad byddant yn derbyn cytundeb sy'n bodloni gofynion eu hundeb. Ni fydd cyfrannwr yn derbyn cytundeb ac efallai mai'r unig beth y bydd angen iddynt ei arwyddo yw ffurflen ryddhau.
Gellir talu cyfranwyr
Nid yw derbyn ffi am ymddangos ar raglen neu waith yn golygu eu bod nhw'n artist. Gall cyfranwyr gael eu talu ond mae'n debyg y bydd y telerau a'r amodau yn wahanol iawn i'r rhai ar gyfer Artist.
Cyfarwyddwyr
Os ydych yn gwybod beth yw rhif Yswiriant Gwladol y Cyfarwyddwr, gallwch eu hychwanegu fel Artist. Os nad ydych yn gwybod beth yw’r rhif, gallwch eu hychwanegu fel Cyfrannwr.
Beth ddylech chi ei wneud os nad ydych yn siŵr
Os nad ydych yn siŵr a yw person yn artist neu'n gyfrannwr dylech geisio cyngor eich tîm mewnol.