Neidio i'r cynnwys

Artistiaid

Ciplun yn dangos y ffurflen artistiaid fel y

Ar y ffurflen artistiaid gallwch gofnodi pawb sy'n derbyn cytundeb undebol am eu cyfraniad i'r rhaglen neu'r gyfres.

Undeb

Dyma'r undebau sydd ar gael ar y system:-

  • DPRS
  • Equity
  • Musicians Union
  • Writers Guild

Os nad yw'r unigolyn yn derbyn cytundeb undebol, dylid eu cofnodi fel [cyfrannwr]](../contributors/). Os nad ydych yn siŵr, cyfeiriwch at Artist neu Gyfrannwr.

Ychwanegu Artistiaid

Gallwch chwilio artistiaid gan ddefnyddio eu rhif Yswiriant Gwladol neu eu dyddiad geni. Rhowch y wybodaeth rydych am ei denfyddio i chwilio yn yr adran Chwilio am Artist ac yna gwasgwch Chwilio.

Os ydych yn chwilio gan ddefnyddio rhif Yswiriant Gwladol, bydd y chwiliad un ai yn agor ffurflen i ychwanegu'r unigolyn dan sylw neu bydd yn methu â chanfod neb ac yn dychwelyd i'r ffurflen chwilio. Wrth chwilio gan ddefnyddio dyddiad geni, os bydd artistiaid yn cael eu canfod bydd y ffurflen yn dychwelyd â rhestr o'r artistiaid hynny er mwyn i chi ddewis yr unigolyn iawn, neu bydd yn methu â chanfod neb ac yn dychwelyd i'r ffurflen chwilio.

Nodyn

Os yw'r unigolyn dan sylw yn 16 oed neu'n hŷn, bydd rhaid chwilio amdanynt gan ddefnyddio eu rhif Yswiriant Gwladol.

Yma gallwch weld rhestr enghreifftiol o ganlyniadau chwiliad.

Ciplun yn dangos set ganlyniadau enghreifftiol ar gyfer

Wedi i chi ddewis yr unigolyn dan sylw o'r rhestr (neu ar ôl chwiliad rhif Yswiriant Gwladol llwyddiannus), bydd y ffurflen yn edrych fel yr un sydd i'w gweld isod, yn barod i chi ddarparu manylion am rôl yr artist yn y rhaglen.

Ciplun yn dangos manylion yr artist yn barod i ddewis eu hundeb a

Pan fyddwch chi wedi dewis yr undeb, rôl o'r rhestr ar gyfer yr undeb a ddewiswyd, ac wedi darparu enw cymeriad/sylw, gwasgwch Arbed. Bydd yr artist yn cael eu cadw a bydd y ffurflen yn cael ei llwytho eto ar ffurf sy'n caniatáu i chi (pan fo angen) ddarparu gwybodaeth ariannol ac i nodi pwy yw asiant yr artist. Bydd y ffurflen ariannol yn amrywio yn dibynnu ar yr undeb (gweler yr adran nesaf am ragor o fanylion).

Casglu Gwybodaeth Ffioedd

Pan fyddwch yn golygu gwybodaeth artist, gallwch ychwanegu manylion am eu ffioedd. Bydd union ddyluniad y ffurflen yn amrywio yn dibynnu ar ba undeb a ddewiswyd. Mae enghreifftiau o bob ffurflen ffioedd i'w gweld isod.

Adran Ffioedd Equity

Ciplun yn dangos fersiwn Equity o ffioedd artistiaid

Cyfanswm Ffi Sylfaenol

Defnyddir y gwerthoedd canlynol i gyfrifo cyfanswm y ffi sylfaenol:-

  • Wythnos Penodol
  • Wythnos Galwad Cyntaf
  • Diwrnod Cyntaf
  • Diwrnod Cyntaf Uwch
  • Dyddiol
  • Sesiwn Ôl-gydamseru
  • Sesiwn Dybio
  • Rhodiwr 1
  • Rhodiwr 2
  • Rhodiwr 3
  • Rhaglen gyfansawdd
  • Styntiau
  • Ffi ecstract
  • Ffi Rhaglen Atodol
  • Credydau Gwyliau
  • Eraill

Adran Ffioedd Musicians Union

Ciplun yn dangos fersiwn Musicians Union o ffioedd artistiaid

Adran Ffioedd Writers Guild

Ciplun yn dangos fersiwn Writers Guild o ffioedd artistiaid

Asiant Artist

I ddewis asiant ar gyfer yr artist, gwasgwch Dewis Asiant. Bydd ffurflen â rhestr o opsiynau yn cael ei llwytho, fel sydd i'w weld yn yr enghraifft isod.

Ciplun yn dangos y rhestr dewis asiant

Er mwyn dewis asiant, gwasgwch ar yr eicon dewis yn y rhes sy'n cyfateb iddynt.

Golygu Artist

Er mwyn golygu artist, gwasgwch ar y botwm golygu sy'n cyfateb iddynt. Bydd eu manylion yn cael eu llwytho i'r ffurflen, ynghyd â'r ffurflen ariannol berthnasol, er mwyn i chi gael eu golygu.

Pwysig

Peidiwch â newid eu hundeb unwaith y byddwch wedi cadw'r cofnod. Pe byddwch angen ei newid, dylech ddileu'r cofnod presennol a chreu un newydd. Gall newid yr undeb ar gofnod presennol artist achosi mater hysbys sy'n arwain at ymddygiad annisgwyl.

Dileu Artist

Os ydych eisiau dileu artist o'r rhestr o artistiaid sy'n gysylltiedig â'r rhaglen/cyfres, gallwch wasgu'r eicon dileu sy'n cyfateb iddynt. Fel y gwelir isod, bydd angen i chi gadarnhau'r weithred ar ôl gwasgu.

Ciplun sy

Ychwanegu Artistiaid i Benodau

Gyda chyfres, bydd angen darparu gwybodaeth ar ba benodau y mae pob artist yn gysylltiedig â hwy. Er mwyn gwneud hyn, agorwch y ffolder Artistiaid yn y gyfres ac yn dewiswch Ychwanegu Penodau. Bydd ffurflen sy'n edrych yn debyg i'r un isod yn ymddangos.

Ciplun sy

Mae'r ffurflen yn dangos dwy restr, Artistiaid a Penodau, gellir cysylltu artistiaid i benodau trwy ddewis artistiaid a phenodau o'r rhestr a gwasgu Arbed. Pe byddwch yn dewis dau artist a thair pennod, bydd y ddau artist yn cael eu cysylltu i'r tair pennod a ddewiswyd. Er mwyn hwyluso pethau i chi, ar waelod y ffurflen gallwch wasgu Dewis y cyfan a Dad-ddewis y cyfan*, fel y gwelir isod.

Ciplun sy

Tynnu Artistiaid oddi ar Benodau

Os byddwch angen tynnu artist oddi ar bennod o gyfres, agorwch y ffolder Artistiaid ar gyfer y gyfres a dewiswch yr opsiwn Dileu Penodau. Bydd ffurflen debyg i'r un a ddangosir isod yn ymddangos.

Ciplun sy

Y cam cyntaf yw dewis pa artist yr ydych am eu dileu o'r penodau trwy wasgu eu heicon dewis. Bydd y ffurflen yn ail-lwytho gyda rhestr o'r holl benodau y mae'r artist yn gysylltiedig â hwy, fel y gwelir isod.

Ciplun sy

Er mwyn tynnu artist oddi ar bennod, gwasgwch yr eicon dileu ar gyfer y bennod honno. Bydd angen i chi gadarnhau'r weithred cyn y gellir dileu.

Ciplun sy