Gwybodaeth Hysbysebu
Defnyddir y ffurflen gwybodaeth hysbysebu i gasglu'r wybodaeth a ddefnyddir yn y broses o werthu amser hysbysebu rhwng rhaglenni, ac o ganlyniad bydd ar gael i drydydd partïon yn ystod y broses honno.
Felly, mae'n hollbwysig bod y wybodaeth mor gywir ag sy'n bosibl.
Pan fyddwch wedi darparu'r wybodaeth ofynnol, gwasgwch y botwm Arbed.
Nid oes botwm Cwblhau gan ei fod yn ffurfio rhan o Ffurflen Cyfleu'r Rhaglen.
Rhestr o'r Cast/Prif Gyflwynwyr
Os bydd unrhyw artist yn ymddangos mewn hysbysebion, ni ellir gosod yr hysbysebion hynny o gwmpas eich rhaglenni chi. Rhaid i'r rhestrau hyn gynnwys pob person sydd wedi cyfrannu at y rhaglen. Efallai na fyddent o reidrwydd yn derbyn taliad sy'n gysylltiedig ag undeb (e.e. ASau, pobl sy'n cael eu cyfweld ayyb.).
Cyfeiriadau Masnachol
Cyfeiriadau at Gwmnïau neu Gynnyrch yw'r rhain. Mae rheoliadau OFCOM yn cadw rheolaeth lem ar sut y gosodir hysbysebion. O ganlyniad, mae'n rhaid i Presentation dderbyn rhestr gyflawn o'r holl gyfeiriadau masnachol sydd o fewn y rhaglen. Dylai cynhyrchwyr rhaglenni munud olaf a rhaglenni byw gysylltu â S4C i gynnig gwybodaeth ac mae ganddynt ddyletswydd gyfreithiol i hysbysu'r Adran Gwerthiannau Hysbysebu os bydd unrhyw wrthdaro o ran buddiannau.
Disgrifiad o'r Olygfa
Mae S4C angen bod yn ymwybodol o'r hyn sy'n digwydd yn y rhaglen a'i naws gyffredinol cyn, ac ar ôl, yr egwyl, ac i gymryd camau i sicrhau nad oes unrhyw hysbyseb wedi'i drefnu a allai sbarduno sensitifrwydd y gwyliwr.